Nature Emergency UK

Cynnig enghreifftiol

Defnyddiwch ein templed i greu cynnig drafft i’ch cyngor ddatgan argyfwng natur. Mae’r geiriad awgrymedig hwn yn cynnwys y tri cham blaenoriaeth rydyn ni wedi ystyried eu bod yn allweddol er mwyn atal difodiant byd natur, a’i adfer.

Mae Cyngor [enw’r cyngor] yn cydnabod pa mor hanfodol bwysig yw amgylchedd naturiol iach i les ac ansawdd bywyd ein trigolion yn gyffredinol, a bod angen mynd ati ar fyrder i warchod ac adfer byd natur.

Mae prawf gwyddonol bod cysylltu â natur o fudd i’n hiechyd corfforol a meddyliol, ac mae’r dystiolaeth yn parhau i dyfu. Mae’r defnydd o fannau gwyrdd cyhoeddus, fel parciau a choetiroedd, wedi cynyddu – yn enwedig ers pandemig Covid – wrth i bobl gydnabod y manteision hyn a cheisio cysur, ymarfer corff a mwynhau gweithgareddau hamdden ym myd natur. Ac eto, mae adroddiadau fel y Sefyllfa Byd Natur yn dangos bod sawl agwedd ar ein byd naturiol yn dirywio’n barhaus.

Yng ngoleuni’r argyfwng deublyg – cwymp yr hinsawdd a cholli bioamrywiaeth – mae Cyngor [enw’r cyngor], drwy hyn, yn penderfynu:

  1. datgan argyfwng natur a datblygu cynllun cynhwysfawr i fynd i’r afael â hyn.
  2. sefydlu pwyllgor cynghori ar hinsawdd a natur er mwyn arwain y cabinet a swyddogion y cyngor i fynd i’r afael â’r materion brys hyn.
  3. ymrwymo i gyfrannu at dargedau ac ymrwymiadau hinsawdd a natur ar lefel genedlaethol.
  4. cynnwys asesiadau o’r effaith ecolegol ochr yn ochr ag ystyriaethau hinsawdd a chynaliadwyedd yn holl adroddiadau’r cyngor a’i bwyllgorau.
  5. gwneud adfer natur yn brif flaenoriaeth strategol mewn polisïau cynllunio a chanllawiau dylunio ar gyfer datblygiadau newydd. Mae hyn yn cynnwys:
    1. nodi ardaloedd addas ar gyfer adfer cynefinoedd, fel rhan o’r gofyniad asesu seilwaith gwyrdd (para 6.2.5 Polisi Cynllunio Cymru 12) a chyflawni’r ddyletswydd sydd ar ddod sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus gyfrannu at gyflawni’r targedau bioamrywiaeth.
    2. sicrhau Budd Net Fioamrywiaeth fel sy’n ofynnol ym Mholisi Cynllunio Cymru.
    3. lleihau effaith datblygiad ar gynefinoedd naturiol a lled-naturiol presennol, gan sicrhau bod cynefinoedd unigryw yn cael eu hamddiffyn.
    4. gwella mynediad at fannau gwyrdd sy’n gyforiog o natur – o fewn 10 munud ar droed i’r holl drigolion
    5. mynnu bod datblygiadau newydd yn ymrwymo i o leiaf 30% o orchudd canopi coed
    6. hyrwyddo mynediad teg at goed drwy gynyddu’r gorchudd canopi coed mewn stadau tai lle mae’n is na’r cyfartaledd trefol o 21% ar gyfer Lloegr.
  6. sefydlu a chefnogi meithrinfeydd coed cymunedol a/neu leol sy’n cael eu rhedeg gan awdurdodau lleol, gan gynyddu’r cyflenwad o goed ifanc lleol.
  7. blaenoriaethu’r defnydd o dirddaliadau’r cyngor, gan gynnwyd ffermydd y cyngor, i greu ac adfer cynefinoedd, er mwyn cyrraedd lefel lle mae 30% o dir yn cael ei reoli at ddibenion adfer natur.
  8. cyflogi ecolegydd arbenigol a swyddog coed i gefnogi’r gwaith o warchod ac adfer natur.

Yn olaf, mae Cyngor [enw’r cyngor] yn annog ei holl randdeiliaid i ddod at ei gilydd i ddiogelu ac adfer ein hasedau naturiol, gan gydnabod eu rôl hanfodol wrth sicrhau dyfodol cynaliadwy i’n cymuned.